Llansadwrn: Logo Papur Menai.

Llansadwrn: Newyddion


Y TYWYDD - NODION NATUR
2003

Logo: Llansadwrn - Tywydd - Melin Llynnon, Ynys Môn


Chwefror 2003

Mis mwynaidd oedd Rhagfyr gyda'r tymheredd isaf yn 1C yn uwch na'r cyfartaledd; 18 a 19 oedd yr unig ddyddiau oer a chaed peth barrug. Tua'r arferol oedd y tymheredd uchaf, ond caed gwynt cynnes o'r de ar 23/24 a chododd y tymheredd i 15.2C, yr uchaf a gaed erioed yma ym mis Rhagfyr. Yr oedd 15.5C yn Mhentraeth ac yn 16.9C yn Abergwyngregyn. Diweddodd y flwyddyn gyda 113 mm o law ym mis Rhagfyr. Chwefror (188 mm) oedd mis gwlypaf y flwyddyn, gyda Tachwedd (185 mm) yn agos iawn ato as 1 Awst (37 mm) oedd y diwrnod gwlypaf. Y mis sychaf oedd Medi (23 mm).

Daeth tywydd oer ddydd a nos yn Ionawr, gyda barrug yn yr aer ac ar y tir. Daeth hyn â'r adar i'r gerri i chwilio am fwyd. Gwelwyd mwy nag ers rhai blynyddoedd o bincod ac esgyll cochion. Ar y 13eg yr oedd tua 100 o esgyll cochion yn bwydo gyda'r drudwy yn un o'r caeau ger yr eglwys. Ond gan iddi oeri ar y 14eg diflannodd yr adar acymddangosodd yr eirysiau.


Mawrth 2003

Yr oedd glawiad o 82 mm mis Ionawr (82% o'r cyfartalledd) gyda glaw o 16 mm ar y 24ain yn ei wneud y diwrnod gwlypaf. Bu Chwefror yn sych hefyd - dim ond 35 mm o law hyd at yr 21ain o'r mis. Y gaeaf hwn - o Ragfyr hyd Chwefror - yw'r sychaf er 1997. Yn ystod tywydd oer Chwefror cafwyd barrug naw o weithiau, a hynny'n dod â'r cyfanswm i 22. Noson 4 14/15 oedd yr oeraf, gyda'r aer yn -3C ac ar y tir yn -9C. Dyma'r gaeaf oeraf er 1996 (31) a 1997 (28). Y gaeaf oeraf er dechrau cofnodi yma oedd 1981/1982 gyda barrug 42 o weithiau.

Ar dywydd tyner bu'r tresglod neu'r bronfreithod mawr yn pyncio o bebbau'r coed. Y maent yn canu trwy dywydd cynnes, gwlyb a gwyntog, ac felly'n haeddu'r enw 'ceiliogod drycin'. Ond ni allant oddef tywydd oer, a pheidiant â chanu.


Ebrill 2003

Dim ond 35 mm o law a gaed ym mis Mawrth hyd at yr 20ain, ac felly y mae ymhlith y sychaf sydd wedi ei gofnodi. Yn 1929 y caed y Mawrth sychaf, gyda dim ond 96 mm o law. Er ei bod weithiau'n oer. gyda barrug trwm yn y nos, bu ar y cyfan yn heulog. Ar y 14eg cododd y tymheredd o minus 2C i 16C, y codiad uchaf mewn diwrnod ers dros 5 mlynedd. Gyda'r tymheredd yn uwch o 1C na'r disgwyl, ymddangosodd blagur ar amryw o goed, gan gynnwys yr helyg a'r castanau, Glasodd y gwrychoedd drain gwynion a daeth blodau gwynion ar y ddraenen ddu.

Yn yr ardd caed blodau ar y brithion a daeth gwenyn dros rug y gwanwyn, Ar y 15ed gwelwyd yr adain garpiog yn ar ardd, a hynny'n beth pur eithriadol, gan mai o gwmpas y Môr Canoldir y mae ei chartref, ac yma y mae terfyn ei thaith i'r gogledd. Efallai iddi aeafu yma, neu ynteu gael ei chludo yma ar wynt y de. Y mae dail poethion yn fwyd i'r glöynod hyn, a da yw cael ychydig ohonynt yn yr ardd i ddenu rhai mor hardd â'r adain garpiog.


Mai 2003

Parhaodd Ebrill yn sych hyd at y 24ain, dim ond 14.5 mm o law a gafwyd yn ystod y mis. Sioc i'r garddwyr oedd y barrug trwm a gafwyd ar noson y 9/10ed, oherwydd bu llai o farrug er 1990 nag a gafwyd yn y degawd cyn hynny. Cynhesodd yn fawr erbyn canol y mis, a'r tymheredd yn 23C a rhagor ar y 14eg - 18ed. Roedd 25.3C ar yr 16ed yn ei wneud y diwrnod o Ebrill cynhesaf a gofnodwyd erioed ym Môn.

Llwylys Denmarc ar y ffordd Llansadwrn.

Gan fod Llansadwrn bellter oddi wrth y môr, ni ddisgwylid gweld planhigion yr arfordir yma. Ond yn annisgwyl gwelwyd Llwylys Denmarc yn tyfu gydag ymyl y gwellt ar ochr y ffordd A5025. Tyfiant blynyddol isel ydyw, gyda chlwstwr o betalau gwynion, sy'n magu gwawr borffor yn yr haul. Ar y glannau tywodlyd a chreigiog y tyfu fel arfer, ond bellach oherwydd yr halen a wasgerir ar y ffyrdd yn y gaeaf a'r chwynladdwr a ddefnyddir yn yr haf y mae'n tyfu mewn mannau sy'n annerbyniol i blanhigion eraill.


Mehefin 2003

DATHLU Y CANT

Dathlodd Mrs Gladys May Owen, Penlôn Gadlys, ei phen blwydd yn 100 oed ar 22 Mai. Gweler yr hanes

Mrs gladys may Owen 100 oed ar 22 May 2003.

Y TYWYDD

Daeth tywydd sych Ebrill i ben cyn diwedd y mis a chaed glaw trwm, 35 mm ar 27/28, yn dod â chyfanswm y mis i 67 mm, sef ychydig dros y cyfartaledd. Parhaodd y twywdd gwlyb i fis Mai, ac erbyn 22ain cawsom dros 143 mm o law, sef y Mai gwlypaf er pan ddechreuwyd cofnodi. Y gwlypaf cyn hyn oedd Mai 1993 gyda 140 mm. Nid oedd tymheredd uchaf yr 22ain, a oedd yn lawog a niwlog, yn ddim ond 12C ac yr oedd y glawiad yn 6 mm. Ar yr un diwrnod gan mlynedd yn ôl, diwrnod geni Mrs Gladys Owen yr oedd yn braf ond yn wyntog ym Môn ac yn heulog a chynnes yn Streatham, Llundain lle ganwyd hi.

Roedd tymheredd a dydd ym Mai 2C yn is na'r cyfartaledd. Ond gyda nosweithiau cymylog unwaith yn unig y caed barrug. Daeth y tywydd gwlyb â digon o fwyd i gywion y deryn du a'r fronfraith. Gwelwyd y gwenolaid hefyd yn bwydo ar y ffyrdd coediog gan wibio yng nghanol y drafnidiaeth. Dychwelodd yr ystlumod hefyd i'w hen gartrefi i fagu'r rhai ifranc. Ar bryfetach o dan y coed y maent hwythau'n bwydo, ond nid ydynt yn mynd allan ar ôl iddi dywyllu ar dywydd gwlyb.

CASGLU

Cynhaliwyd sêl blanhigion lwyddiannus unwaith eto yn Lodge, y Gadlys ac fe wnaed elw o £673 tuag at yr NSPCC. Dyma'r nawfed flwyddyn i'r sêl gael ei chynnal, ac y mae cynnydd bob blwyddyn yn yr elw. Erbyn hyn y mae cyfanswm yr elw un £4335. Mae teulu'r Lodge yn gwerthfawrogi'r haelioni a chymorth pawb sy'n mynchu'r sêl. ac yr ydym ninnau'n eu llongyfarch hwythau ar eu llafur a'u llwyddiant.


Gorffennaf 2003

Wedi i'r flwyddyn ddechrau'n sych, cawson y mis Mai gwlypaf ers dechrau cofnodi, ond bu llai na'r cyfartaledd o law ym mis Mehefin, 24 mm hyd at 18 Mehrfin. Nid yw hynny o law a gawson - sef 418 mm ddim on 40% o'r cyfartaledd blynyddol. Er mai dim ond tywydd go lew gawsom ym mis Mai, mae'r tymheredd wedi bod 1C yn uwch ma'r cyfartaledd ym Mehefin, ac o ddechrau'r flwyddyn tan rwan, bu 0.5C yn uwch na'r cyffredin.

Effaith y tywydd barodd i laweroedd o degeiriannau ymddangos dair wythnos llaith yn gynnar mewn lleoedd llaith ac ar y twyni tywod. Bu sioe dda o Degeirian-y-gors lydan ddail Gymreig, Ceineiran, Teheirian Bera a Thegeirian-y-Wenynen.

O gwmpas tir coediog a gwrychoedd y Gadlys, bu'r adar bach yn galw'n ddi-ddiwedd ar eu rhieni am fwyd. Magodd y fronfraith (sydd â'i niferoedd yn lleihau) deuluoedd lluosog a gadawodd y fronfraith fawr/ dreglen yr ardal am eu cartref dros yr haf. Cyrhaeddodd rhai glöynnod byw mewnfudol - yr iâr fach dramor a'r Fantell goch - wedi eu cynorthwyo gan y gwyntoedd o'r De a gawsom yn ddiweddar. Mae'r werth plannu rhai blodau sy'n denu'r glöynnod er mwyn eu gwylio. Un o'r ffefrynnau ar ddechrau'r haf yw'r blodyn pinc-Croeslys Cawcasaidd Phuopsis stylosa ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn - Bwdleia. Mae'r ddau rywogaeth wedi cartrefu yma erbyn hyn ond dont yn wreiddiol - y naill o Bersia a'r llall o Tsiena.


Medi 2003

Er bod dechrau Gorffennaf yn gynhesach nag arfer, caed cymylau a niwl ar rai dyddiau, a golygai hynny mai ychydig o haul a gaed. Ond o'r 14eg i'r 16eg caed haul cryf a chododd y tymheredd i fod yn uwch na 25C; gyda 31.2C ar y 14eg cyrhaeddwyd y gwres uchaf a gaed yn Llansadwrn ym mis Gorffennaf ers 25 mlynedd. Y gwres uchaf a gaed yng Ngorffennaf ym Môn oedd 32.8C yn y Fali yn 1948. Ychydig o law a gaed ac eithrio ar y 24ain a'r 29ain; 64% o'r cyfartaledd am y mis a gafwyd. Dychwelodd y tywydd poeth ddechrau Awst a chofnodwyd 31.7C yma ar y 5ed a 33C yn y Fali. Ychydig o law a gaed hyd yr 21ain, dim ond 4 mm. Arafodd tyfiant y glaswellt, a dywedir y bydd y cnydau haidd yn is nag arfer. Gwelir rhai planhigion hefyd yn dioddef o'r sychder, ac mae'r dail eisoes yn dechrau disgyn oddi ar rai coed.


Tachwedd 2003

Tywydd cymysglyd a gaed ym mis Medi. Ar 9 diwrnod codadd y tymheredd i 20C neu ragor, gan gyrraedd 24C ar y 4ydd a'r 14eg. Ond bu'n gymylog hefyd, gyda 6 diwrnod heb fawr haul o gwbl. Bu'n wlyb hefyd: dim on 9 diwrnod a gaed heb law, a chyrhaeddodd y glawiad y cyfanswm aruthrol o 160 mm. Caed 41 mm ar y 18/19eg pan lawiodd yn ddi-baid am 32 o oriau, acyna 55 mm ar y 29ain mewn cyfod o 17 awr. Y glawiad hwn ar y 29ain oedd y trymaf er Medi 1926.

Ddechrau Hydref yr oedd dail y castanwydd a'r ffawydd yn dechrau newid lliw. Ar ddyddiau heulog yr oedd y lafant Ffrengig yn denu ieir bach yr haf i'r gerddi. Gwelwyd ambell i was y neidr hefyd, ond yr oedd y pryfed heidiog eisoes yn cilio i'r llofftydd i ddechrau gaeafu, a'r un modd yr ystlumod. Dechreuodd aeron coch y celyn aeddfedu, ond prin fyddant at y Nadolig, gan i'r tywydd oer ar y 19eg a'r eira bellach ar y mynyddoedd, dynnu'r esgyll cochion a'r bronfreithod mawr i'r gerddi, a bwyta'r cyfan mewn ychydig ddyddiau. Daeth y barrug cyntaf ar noson yr 22/23ain.


Rhagfyr 2003

Gyda dim ond 56 mm o law, cawsom y mis Hydref sychaf er 1997. Ond dyma'r Hydref oeraf ers pum mlynedd ar hugain, a bu'n ddigon oer ar yr 21ain i ddod ag eirlaw at y gyda'r nos.

Bu lliwiau'r Hydref yn y coed a'r llwyni yn odidog, yn enwedig yn nechrau Tachwedd. Y mae'r tywydd, wrth gwrs, yn effeithio ar amrywiaeth a chryfder y lliwiau. Ni chaed gwyntoedd cryfion ym mis Hydref i brysuro cwymp y dail, a bu'r cyfuniad o ddyddiau heulog a nosweithiau oer yn gymorth i roi'r lliwiau cryfaf a welwyd ers blynyddoedd. Nid rhew, fel y tybir weithiau, sy'n dod a'r lliwiau cyfoethog. Ond yn y gwanwyn a thrwy'r haf y mae'r cloroffyl gwyrdd sydd yn y dail yn derbyn ynni o'r haul. Er bod y dail yn derbyn lliwiau eraill o'r haul, yn enwedig coch, glaswyrdd a glas, fe'u cuddir gan y gwyrdd a welyn ni. Ond yn yr Hydref, wrth i'r tymheredd ostwng ac i'r goleuni wanhau, mae'r dail hwythau yn dechrau ymddatod ar gyfer eu cwymp. Rhydd y lliwiau cudd hyn wawr felyn i ddail yr onnen, y fedwen, y gollen a'r fasarn. Ond mewn coed eraill try'r lliwiau cudd yn amrywiaeth cyfoethog o goch. Eleni, gyda'r cyfuniad o ddyddiau rhyfeddol. Ond ar 5 Tachwedd daeth gwyntoedd cryfion i brysuro cwymp y dail.


Gwybodaeth newydd: 5 Tachwedd 2003.
http://www.llansadwrn-wx.co.uk

© Hawlfraint 2000-2003