Llansadwrn: Logo Papur Menai.

CYRRAEDD Y CANT


Mrs Gladys May Owen

100 oedd ar 22 Mai 2003
Logo: Llansadwrn - Tywydd - Melin Llynnon, Ynys Môn

[This is an article about Mrs Gladys May Owen of Streatham and Llansadwrn, Anglesey who was 100 years of age on 22 May 2003]

Mrs Gladys Owen ar y dde gyda'r chwaer Violet tu allan i Castell Croft.

Dathlodd Mrs Gladys May Owen, Penlôn Gadlys, Llansadwrn ei phen blwydd yn gant oed ar 22 Mai 2003. Yn naturiol roedd yn ddiwrnod pur arbennig yn y Gadlys, gan nad oes cof am neb yn y gymdogaeth yma yn cyrraedd canrif. Cychwynnodd y diwrnod gyda fan bôst arbennig yn danfon cerdyn oddi wrth y Frenhines; daeth un hefyd oddi wrth Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol. O hynny ymlaen, gydol y dydd, bu drws Penlôn yn agored i groesawu teulu a ffrindiau a fu'n galw i'w llongyfarch ac i ddymuno'n dda iddi. Teithiodd un pâr yr holl ffordd o Kettering ac un arall o swydd Henffordd. Y diwrnod cyn ei phen blwydd bu'r Parchedig Deiniol Prys, y rheithor, yn rhoi cymun iddi, gan mai eglwyswraig selog fu Mrs owen ar hyd ei hoes. Roedd hithau mewn hwyliau da ac yn falch o weld pawb.

Ar 22 mai 1903 yn Streatham, Llundain y ganwyd Gladys Owen ac y oedd yn un o dri o blant. Yn fuan symudodd y teulu i Swydd Henffordd, lle'r aeth ei thad i wasanaethu gyda theulu bonedd Castell Croft ac wedi hynny gyda theulu Castell Llwyydlo. Cofia fynd i ysgol pentref Bircher, ac yno dysgu'r wyddor a'i sgwennu mewn tywod - hynny yn y dyddiau defnyddio llechen! Wedi gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg oed aeth i Lundain i ddysgu gwnïo yn siop enwog Marshall & Snelgrove yn Oxford Street. Y mae'n cofio'r ystafell wnïo anferth ar y llawr uchaf, gyda'r merched yno yn torri patrymau ac yn gwnïo dillad i'r teulu Brenhinol ac i fawrion y ddinas. Prysura Mrs Owen i ddweud mai ar y cychwyn 'tacio' oedd ei gwaith hi fel merch ifranc ddi-brofiad. Dychwelodd wedyn i Swydd Henfordd, a thrwy gysylltiadau teuluoedd y stadau bonheddig daeth i Sir Fôn at deulu'r Archddiacon Morgan yn y Bryn, Biwmares. Yno cyfarfu â John Owen, hogyn o'r dre ddaeth yn 'chauffer' i deulu'r Archddiacon. Yn 1927 wedi iddi brodi a hithau'n 24 oed, symudodd yr Archddiacon i fyw i'r Gadlys; daeth hithau i'w canlyn i wnï i'r teulu a gofalu am Joyce, merch y Morganiaidd. Yr oeddynt yn flynyddoedd caled, ond pleserus hefyd yn magu dau o blant, Vivienne a Donald. Arhossodd yma yn y Gadlys ar hyd ei hoes, a'i theulu'n golygu'r cyfan iddi, a hithau'n wraig foneddigaid, garedig a medrus.

Dymunwn yn dda iawn i Mrs Gladys owen ar y dathiad arbennig hwn, a'r un pryd y mae'r cymdogion a'r ffrindiau i gyd yn yn diolch i Vivienne a'i gwr Alan ac i Stanley, wyr Mrs owen, am roi inni ddiwrnod i'w gofio.

Gan Mari Jones.


Gwybodaeth newydd: 5 Gorffennaf 2003. http://www.llansadwrn-wx.co.uk

© Hawlfraint 2000-2003