Llansadwrn: NewyddionY TYWYDD - NODION NATUR |
Yn Rhagfyr caed tymheredd ronyn bach yn is na'r cyfartaledd. Roedd Eryri'n wyn fore'r Nadolog, a chaed tua 6 cm o genllysg ac eira yn Llansadwrn drannoeth y Nadolig. a chaed ychwaneg wedyn ar Ragfyr 30ain.
Erbyn diwedd y flwyddyn 866 mm o lawiad a gaed, a hi oedd y flwyddyn sychaf er 1966, a'r nawfed sychaf er dechrau cofnodi yn 1929. Dyna wahaniaeth i 2000, y flwyddyn wlypaf yn ein cofnodion. Fodd bynnag, ni olyga hynny ei bod yn flwyddyn gynnes. Dim ond misoedd Mai, Hydref a Thachwedd oedd yn gynhesach nag arfer: cyfartaledd y gwres isaf oedd 9.9C, a hynny'n ei gwneud y flwyddyn oeraf er 1996.
Y diwrnod cynhesaf oedd Gorffennaf 28 (28C) a'r noson oeraf oedd Mawrth 4 (-5C). Caed barrug ar y tir ar 89 o ddy-ddiau, sef 21 yn fwy na'r cyfartaledd.
Cychwynnodd y flwyddyn newydd yn sych hefyd, gyda dim ond 7 mm o law erbyn y 15ed. Caed 15 mm ar Ionawr 16eg ac erbyn y 24ain yr oedd 47 mm wedi disgyn: ond 50% o'r cyfartaledd yw hynny. Yn rhyfedd, fe ddilynir blwyddyn eithriadol wlyb, gan ddwy sych - neu o leiaf dyna sydd wedi digwydd o leiaf 5 gwaith!
Yr oedd yn gynnes ar y 12fed gyda thymheredd o 12C; bu hynny'n ddigon i demtio'r eirlysiau cyntaf i ymddangos. Gwelwyd gwenyn hefyd o gwmpas blodau grug y gaeaf. Gyda thywydd oerach daeth heidiau o 100 a rhagor o gornchwiglod a thresglod cochion i chwilio am fwyd ar y caeau.
Am y tro cyntaf y gaeaf hwn gwelwydd pilaod gwyrddion yn bwydo yn yr ardd, ond am yr ail flwyddyn yn olynol ni welwyd pincod y mynydd. Bu'r gnocell fraith fwyaf wrthi'n brysur tua Gadlys a Threffos ar ddyddiau braf, a bu'r fronfraith fawr yn pyncio hyd yn oed yn y tywydd oer a Gwyntog.
Diwedd gwlyb a gwyntog a gaed i Ionawr, gyda gwyntoedd cryfion am 4 diwrnod yn olynol o'r 26 ain i'r 29 ain. Bu gwyntoedd mawr ar 9 diwrnod o'r mis.
Caed glawiad o 99 mm y mis, sef tua'r cyfartaledd. Yr oedd yn fis cynnes, gyda'r tymheredd cymedrig yn 6.8C, yn agos i 2 dradd yn uwch na'r cyfartaledd; yr Ionawr hwn, gydag un 1989, oedd y rhai cynhesaf sydd ar ein cofnod o 1979 ymlaen.
Parhaodd yn wlyb iawn yn Chwefror, gyda 142 mm o law, bron i ddwbl y cyfartaledd. Os tybiwch fod hyn yn wlyb, meddyliwch am drigolion Capel Curig - cawsant hwy 875 mm o law hyd yn hyn eleni, a hynny'n fwy o law nag a gafodd Llansadwrn trwy'r flwyddyn diwethaf!
Caed yr ail Chwefror gwlypaf er dechrau cadw cofnodion yma yn 1928 - 188 mm o law a hynny'n 250% o'r cyfartaledd ychydig yn llai nag a gaed yn 1958. Cychwynnodd Mawrth yn sychach, gyda dim ond 24 mm erbyn yr 20fed sef 30% o'r cyfartaledd. Yr oedd yr hin yn debyg i'r arfer.
Cymerodd y ffermwyr a'r garddwyr fantais o'r tywydd sych i ddechrau trin y tir. Gydag arwyddion cryf o'r gwanwyn caed blodau gwynion ar y Ddraenen Ddu, gan eu bod yndyfod cyn y dail. Daw blodau'r Ddraenen Wen ar ôl y dail ac y mae peth gwyrddni yn dechrau ymddangos yn barod.
Dechreuodd y brain dwtio eu nythod ar ôl stormydd y gaeaf; y mae ganddynt bigau cryfion ac yn medru torri brigau byw o flaenau'r coed. Er bod digon o frigau crin ar lawr yn dilyn stormydd Ionawr a Chwefror nid ydynt yn fodlon ar y rheini gan eu bod yn rhy wan. Tuedd y brain yw dewis yr un safle â'r flwyddyn flaenerol.
Gwelwyd llai o'r gwiwerod llwyd y gaeaf hwn - yn wir, dim ond un hyd yma eleni. Y mae'r plisi i'w difa yn amlwg yn llwyddo a gobeithir y daw'r wiwer goch, sydd yn dal yn ardal Pentraeth, yn ôl i Lansadwrn cyn bo hir. Y mae dros ugain mlynedd er pan welwyd gwiwer goch yng nghoed y Gadlys.
Parhaodd y tywydd sych ymlaen i ddechrau Ebrill. Mis Mawrth eleni, gyda dim ond 39 mm o law, oedd y 15ed ar restr y rhai sych sy'n mynd yn ôl i 1928. Hyd at y 15ed o Ebrill dim ond 10 mm o law a gafwyd, ac yr oedd ambell i briddyn yn dechrau cracio a phlanhigion yn sychedu am ddŵr. Bu tri mis cyntaf y flwyddyn yn gynhesach nag arfer, ond trodd yn oer ddechrau Ebrill a dod â ni'n nôl yr arferol.
Oherwydd y tywydd cynnes blagurodd rhai coed yn gynnar, yn enwedig yr helyg, y gwern a'r onnen. Yn faun iawn daeth paill coed i boeni'r bobl sy'n dioddef oddi wrth hynny. Mae'r deryn du a'r bron freithod yn nythu'n gynnar, ac yr oedd cywion mewn rhai nythod erbyn canol y mis. Ond yr oedd y twydd sych yn ei gwneud yn anodd i'r rheni gael digon o fwyd i'r cywion. Yn ffodus daeth 16 mm o law ar yr 16eg a'r 17eg ac fe fwydodd y tir. Yr oedd y titw hefyd wedi dechrau meddwl am nythu, ond oeddodd ychydig oherwydd y sychder. Dibynna'r titw ar bryfaid a lindys i borthi'r rhai bychain, ac ni cheir y rheiny nes i'r dail ymddangos ar y coed. Peidiodd y dail â thyfu, ac eithrio ambell i sycamor-wydden, ac felly peidiodd i nythu hefyd.
Yr oedd glawiad o 79 mm yn yr Ebrill gwlyb a gaed eleni 30% yn uwch na'r cyfartaledd. Er i'r mis gychwyn yn oer, yr oedd Ebrill y pedwerydd mis yn olynol i fod yn gynhesach na'r cyfartaledd. Led-led y byd dyma'r dechrau blwyddyn cynhesaf a gaed ers dechrau cadw cofnodion yn wyddonol yn 1860.
Yr oedd yn oerach ddechrau Mai nes iddi droi'n gynnes iawn ar y 16eg. Dros nos yr oedd y tymheredd isaf yn 17C, y noson gynhesaf ym Mai yn Llansadwrn er dechrau cadw cofnodion. Yr oedd y tymheredd uchaf yn 24.7C, yn rhoi un rhoi cyfartaledd felly o 19.2C.
Daeth y tywydd cynnes â gwahanol fatau o ieir bach yr haf allan. Yn gynnar yn Ebrill, ar ôl iddynt dreulio'r gaeaf o'r golwg, gwelwyd yr ieir bach llygadog yn y gerddi a'r gwrychoedd. Yn faun ar eu holau daeth yr ieir bach gwynion a boneddigesau'r wig. Yn y coed, yn dilyn y cnwd gorau o fwtsias y gog a welwyd ers tro a'r rheini'n ffurfio cdoau gwyrddion o hadau, gwelwyd brithion y coed yn hedfan yn y cysgodion. Bu'r gwyntoedd cynnes o'r de yn gymorth i löynnod yr ysgall gyrraedd o'r Affrig, a gwelwyd y gyntaf ohonynt ar 20 Mai. Gwelwyd y rhain a'r ieir bach melyn yn gyson ym Malltraeth yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Temtir rhywum i ddyfalu tybed a fydd y gaeaf cynnes yn ei gwneud un bosibl i'r mathau hyn dreulio'r gaeaf mewn mannau di-rew ar arfordir Môn.
Cynhaliwyd sêl blanhigion Calan Mai yn cartref Pat a Don Perkins, am y seithfed flwyddyn yn olynol. Roedd yn dda gweld Pat wedi gwella mor dda ar ôl llawdriniaeth i'w chlun, ac yn ei helfen yng nghanol y planhigion. Gwnaed elw sylweddol o £600 tuag at y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Dymuna'r Pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y sêl, yn enwedig y rhai a roddodd blanhigion a'r cwsmeriaid sy'n dod yma'n flynyddol.
Wedi gwasgedd isei, un ar ôl y llall o gyfeiriad Môr yr Iwerydd, bu diwedd stormus i fis Mai.
Er y sychder ar ddechrau'r mis roedd y glaw - 61 mm - ychydig yn uwch na'r cyfartaledd, a dyma'r mis Mai gwlypaf ers 1999. Mai 17 oedd y diwrnod gwlypaf - 14 mm, wedyn bu'n bwrw pob dydd hyd y 30ain. Parhaodd y tywydd anwadal hyd at fis mehefin - gyda'r gwynt yn gryf ac yn stormus ar brydiau. Oherwydd y gwynt o'r môr a'r heli ynddo - roedd y dail yn deifio ac yn ei gwneud yn hydrefol mewn mannau digysgod, a rhai coed, fel yr onnen a'r ffawydd yn bwrw eu dail yn gynnar. Ychydid o ddyddiau cynnes a gafwyd.
Mae'r gwrychoedd wedi bod yn amryliw y mis yma - a bysedd y cwn a blodau'r neidr ar eu gorau. Mae cywion adar wedi magu plu ac mae heidiau o nico, ji-binc ac adar tô wedi bod yn ymgynnull ar hyd y llwybrau. Maent yn chwilio am hadau o gnydau'r tymor newydd, ond bydd yn rhaid iddynt aros am dipyn. Mae hadau wedi ffurfio ar lwyn - neidr ac mae hadau'r gorthyfail bron yn aeddfed. Blodeuo mae'r gweiriau a'r dail tafol o hyd, ac ni fydd golwg o hadau'r ysgall tan fis Awst - a dyma'r rhai mae'r nico mor ffond ohonynt.
Gyda'r haf gwael a gafwyd eleni gwelwyd llai o löynod byw. Ychydig a welwyd o'r ieir bach llygadog a'r mentyll cochion, a daeth ambell un o'r rhianedd brithion i'r golwg gyda gwynt y de. Bu'n dymor da i'r adar a chafodd y mwyalch, y fronfraith fawr a'r tresglen lwyd ddau neu dri nythiad o gywion. Mantais iddynt oedd y nifer mawr o falwod a gwlithod a gaed eleni. Ond os mantais iddynt hwy, dyma'r tymor gwaelaf ers amser i blanhigion a chnydau'r ardd.
Gyda gostyngiad yn nifer adar y to a'r tresglen lwyd mewn rhai ardloedd fe'u gosodir bellach ar restr yr adar sydd mewn perygyl o ddiflannu. Ond nid yw hynny'n wir am Lansadwrn, gan eu bod yn fwy niferus yma nag mewn blynyddoedd blaenorol. Y mae'r fronfraith fawr erbyn hyn wedi ymadael, ond bu'r tresglen lwyd yma'r brysur yn agor cregyn y malwod ar yr einion o gerrig. Gwelwyd haid o 100 neu ragor o adar, yn fwyaf arbennig adar y to, yn bwydo ar yr hadau sydd i'w cael yn ddigonedd yn y gwrychoedd.
Tywydd dwl a gaed yn ystod yr haf gyda mis Gorffennaf y trydydd isaf o ran oriau o haul er pan ddechreuwyd cofnodion. O ganlyniad bu'r tymheredd uchaf 1C yn is na'r cyfartaledd. Ar dri diwrnod yn unig y caed tymheredd uwch na 20C; y ddau ddiwrnod poethaf oedd 15 Gorffennaf ac 17 Awst, y ddau yn 23C. Yr oedd glawiad o 237 mm am y misoedd Mehefin hyd Awst yn cyfateb i'r arfer, ond cafwyd yn agos i hanner y cyfanswm (110 mm) yn Awst a oedd 40% yn uwch na'r cyfartaledd. Y diwrnod gwlypaf, a'r gwlypaf y flwyddyn hyd yma oedd 1 Awst gyda 37 mm, caed 25 mm eto ar 15 Awst. Yn ystod yr haf caed 28 diwrnod cwbl sych.
Gwelir eisoes arwyddion o'r hydref; y mae'r gwrychoedd yn dechrau newid eu lliw, a cheir aeron coch ar y drain gwynion. Ceir aeron hefyd ar y gwyddfid sydd wedi bod yn flodeuog iawn eleni. Braidd yn brin fu'r rhosod gwylltion, ac ar y gwrychoedd heb eu torri y caed y rhai gorau. Bydd ergoes coch ar y rhain cyn bo hir, a chofir fel y bu casglu ar y rhain yn ystod y rhyfel er mwyn cael Fitamin C. Ychydig o fwyar duon a gaed hefyd - prin ddigon i wneud teisen!
Daeth haf o'r diwedd - ym mis Medi a oedd yn heulog ac yn sychach a chynhesach nag arfer. Gyda dim ond 23 mm o law, dyma'r Medi sychaf er pan ddechreuwyd cofnodi, ag eithrio Medi 1986 pan na chafwyd ond 12 mm o law.
Hwn hefyd oedd mis sychaf y flwyddyn ers Ionawr 1997; caed 20 o ddyddiau sych; y 9fed oedd y diwrnod gwlypaf gyda 12 mm o law. Yr oedd tymheredd isaf y mis yn 14.5C, sef 1C yn uwch na'r cyfartaledd - yn un o'r rhai cynhesaf yn ystod y 24 mlynedd o gofnodi. Y diwrnod poethaf oedd y 12fed gyda thymheredd o 24C.
Bu dyddiau cyntaf Hydref hefyd yn gynnes a sych, gyda digon o fwyar duon yn y gwrychoedd. Yna troes yn wlyb, ac erbyn y 24ain cafwyd 137 mm o law (15% yn uwch na'r cyfartaledd) - 22 mm ar yr 11eg, 20 mm ar y 13eg a 33 mm ar y 20fed.
Cafodd gwenoliaid y bondo gywion diweddar ac yr oeddynt yn amharod i gychwyn ar eu taith tua'r de a gwelwyd rhai yn yr ardal hyd ganol y mis.
Ond daeth arwyddion o'r gaeaf gyda chenllysg ar y 17eg a'r barrug cyntaf ar y 19eg. Am fod cymaint o hadau yn y gwrychoedd mae adar yn araf yn froi troi i'r gerddi am fwyd. Ond gwelwyd y pincod, ymwelwyr cyntaf y gaeaf, yng nghanol haid o esgyll brithion.
Y mae dau o ddarllenwyr Papur Menai hwythau wedi cael haf prysur, ac wedi bod yn llwyddiannus eleni eto. Bu Llewelyn Williams yn gefnogwr cyson i Sioe Pentraeth ers blynddoedd ac eleni cipiodd ddwy brif wobr, y naill am Dahlias a'r llall am domatos. Cafodd amrwy o wobrau mewn cystadleuthau eraill hefyd.
Teithiodd Ben Williams i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i arddangos ei gwningod ac wedi hynny i sioeau Llanrwst, Ynys Môn a'r Gaerwen. Y ddwy gwningen sydd wedi dod â bri iddo eleni yw un o wlad Pwyl a'r llall o'r Iseldiroedd.
Llongyfarchiadau calonnog i chwi eich dau ar lwyddiant gyda hobïau sy'n rhoi cymaint o bleser i chwi.
Diwedd gwlyb a gwyntog fu i fis Hydref - 164 mm o law (47% yn uwch na'r cyfartaledd) a gwynt cryf ar y 27ain dymchwel nifer o goed. Oherwydd iddi oeri at ddiwedd y mis, disgynnodd y tymheredd islaw'r cyfartaledd a chafwyd peth cenllysg bychain. Ar y 29ain daeth ychydig o lwch mân oren o'r Sahara hyd yma.
Cychwynnodd Tachwedd yn llawer tynerach (2C yn uwch na'r cyfartaledd) ond yn wlyb iawn (136 mm hyd at yr 20ed, sef 10% yn uwch na'r cyfartaledd). Oherwydd y glaw trwm yr oedd dwr yn sefyll yn y caeau, y selerydd yn llenwi a moduro ar adegau'n anodd.
Am fod cymylau trwchus yn yr awyr ni chaed llawer o farrug ar y tir. Caed ambell i ysbaid gwbl glir - am rai nosweithiau ddechrau Hydref gellid gweld yr Orsaf Ofod Ryngwladol yn pasio heibio i Lansadwrn: am 4 noson o'r 3ydd ymlaen yr oedd i'w gweld am 4 munud tua 8.17 gyda'r nos. Y mae'r holl wybodaethau llawn gan ISS tracking NASA. Os oeddech ar eich traed am 4.15 y bore ar y 18ed o Dachwedd dichon i chwi weld sawl seren wib, er bod y lleuad yn ddisglair iawn. Bu'r lleuad yn eithriadol o lachar er mis Chwefror, ond o hyn ymlaen bydd yn gwelwi beth. Ar adegau fel hyn y mae'r lleuad yn agos at y ddaer, a hefyd yn achosi llanw uchel.
Gwybodaeth newydd: 8 Rhagfyr 2002. http://www.llansadwrn-wx.co.uk
© Hawlfraint 2000-2002